Canlyniadau Chwilio - Adolf Hitler
Adolf Hitler
}}Roedd Adolf Hitler (20 Ebrill 1889 – 30 Ebrill 1945) yn arweinydd Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol ''(Nationalsozialistische Deutsche Arbeiterpartei)'' yn yr Almaen (a adnabyddwyd fel y Blaid Natsïaidd) ac yn nes ymlaen daeth yn Ganghellor ac yna Führer yr Almaen gyfan (und Reichskanzler (arweinydd a changhellor) yr Almaen. Ef sefydlodd y Drydedd Reich (1933–1945).
Ei ymgais i greu Almaen Fwy (''Großdeutschland'') gan ddechrau drwy uno Awstria â'r Almaen, a goresgyniad Tsiecoslofacia a Gwlad Pwyl oedd wrth wraidd yr Ail Ryfel Byd.
Roedd ganddo ef a'i blaid bolisi pendant o wrth-Semitiaeth a arweiniodd yn y pendraw at ymgais i ddileu'r Iddewon yn gyfan gwbl o Ewrop. Dyma oedd Yr Holocost. O dan arweinyddiaeth Hitler roedd y Natsïaid yn gyfrifol am hil-laddiad tua 6 miliwn o Iddewon a miliynau o ddioddefwyr eraill.
Ar 30 Ebrill 1945 cyflawnodd hunanladdiad, gyda’i wraig, Eva Braun, drwy gymryd gwenwyn a saethu ei hun yn ei fyncer o dan y Canghellordy yn Berlin. Darparwyd gan Wikipedia