Canlyniadau Chwilio - Arthur Miller
Arthur Miller
Dramodydd o'r Unol Daleithiau oedd Arthur Asher Miller (17 Hydref 1915 – 10 Chwefror 2005). Cafodd ei eni yn Efrog Newydd.Ei wraig gyntaf oedd Mary Slattery a'i ail wraig oedd Marilyn Monroe (1956–1961).
Roedd yn un o lenorion Americanaidd mwyaf arwyddocaol yr 20g. Cafodd ei ddrama ''The Crucible'' (1953) ei hysbrydoli gan yr erlid yn erbyn comiwnyddiaeth gan McCarthy yn y 1950au. Mae'r ddrama wedi ei seilio gan achosion llys Salem yn y 1690au a arweiniodd at lofruddio gwrachod honedig. Dramau eraill: ''All My Sons'' (1947), ''Death of a Salesman'' (1949), a ''A View from the Bridge'' (1955, a 1956). Sgwennodd hefyd eiriau ffil o'r enw ''The Misfits'' (1961).
Pan oedd Miller o flaen pwyllgor o'r Gyngres yn 1956 gwrthododd enwi aelodau o gylch llenyddol ac fe'i cafwyd yn euog o ddirmyg llys.
Roedd yn annibynnol ei farn hyd at y diwedd. Roedd yn hyglyw ei lais yn erbyn penderfyniad George W. Bush i fynd i ryfel yn Iraq yn 2003. Darparwyd gan Wikipedia