Canlyniadau Chwilio - Dangarembga, Tsitsi

Tsitsi Dangarembga

| dateformat = dmy}}

Awdures o Simbabwe oedd Tsitsi Dangarembga (ganwyd 1959) sy'n cael ei hystyried hefyd yn nodigedig am ei gwaith fel cyfarwyddwr ffilm. Cafodd ei nofel gyntaf, ''Nervous Conditions'' (1988), ei henwi fel un o'r 100 llyfr sydd wedi newid y byd; hon hefyd oedd y gyfrol gyntaf i gael ei hysgrifennu yn Saesneg gan fenyw ddu o Simbabwe

Fe'i ganed yn Bulawayo, sef ail ddinas fwyaf Simbabwe. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Simbabwe.

Dechreuodd ei haddysg yn Lloegr, ond yn ddiweddarach aeth i Ysgol Uwchradd Hartzell, ysgol genhadol yn nhref Rhodesaidd (a newidiodd ei enw'n ddiwedarach i 'Simbabwe') Umtali ('Mutare' erbyn hyn). Yna astudiodd feddygaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt, lle cafodd brofiadau o hiliaeth a phobl yn ei hanwybyddu. Gadawodd Dangarembga Gaergrawnt a dychwelodd i Simbabwe ychydig fisoedd cyn i'r wlad ddatgan ei hannibyniaeth yn swyddogol.

Astudiodd seicoleg ym Mhrifysgol Simbabwe tra'n gweithio am ddwy flynedd fel ysgrifennwr copi mewn asiantaeth farchnata. Rhoddodd y profiad ysgrifennu cynnar hwn lwybr iddi fynegi ei hun: ysgrifennodd nifer o ddramâu, gan gynnwys ''The Lost of the Soil'', ac yna ymunodd â'r grŵp theatr Zambuko. Cymerodd ran mewn cynhyrchu dwy ddrama, ''Katshaa'' a ''Mavambo''.

Ym mis Hydref 2021, derbyniodd Tsitsi Dangarembga y Wobr Heddwch o Ffair Lyfrau Frankfurt. Mae'r wobr bwysig hon, sydd â gwobr o 25,000 ewro, yn un o'r pwysicaf yn y byd cyhoeddi.

Ym mis Mehefin 2022, cyhoeddwyd gwarant arestio yng nghanolfan Tsitsi Dangarembga. Mae hi’n cael ei herlyn yn benodol am anogaeth i drais cyhoeddus a thorri rheolau gwrth-Covid-19 ar ôl gwrthdystiad gwrth-lywodraeth a drefnwyd ddiwedd Gorffennaf 2020. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    This mournable body gan Dangarembga, Tsitsi

    Llyfr