Canlyniadau Chwilio - India

India

50px | math = gwlad image1 sir | enw_brodorol = ''Gweriniaeth India''
''Bhārat Gaṇarājya''
| suppressfields= image1 | map lleoliad = 270px | sefydlwyd = Fel dominiwn:
15 Awst 1947
Fel gweriniaeth:
26 Ionawr 1950 | banergwlad = 170px | mapgwlad = 170px }}

Gwlad yn Ne Asia yw Gweriniaeth yr India neu India (''Bhārat Gaṇarājya'' mewn trawsgrifiad o'r Hindi). Mae hi'n ffinio â Phacistan i'r gorllewin (gan gynnwys rhanbarth Kashmir), Tibet (Tsieina), Nepal a Bhwtan i'r gogledd, a Bangladesh a Myanmar i'r dwyrain. Mae ynys Sri Lanca yn gorwedd dros y dŵr o Damil Nadu, penrhyn deheuol India. Er bod poblogaeth Tsieina'n fwy, yr India yw gwlad ddemocrataidd fwya'r byd. Mae mwy na biliwn o bobl yn byw yn y wlad a mae'n nhw'n siarad mwy nag 800 o ieithoedd. Delhi Newydd yw prifddinas y wlad.

{| class="infobox borderless" |+ National symbols of the Republic of India (Official) |- ! National animal | | |- ! National bird | | |- ! National tree | | |- ! National flower | | |- ! National heritage animal | | |- ! National aquatic marine mammal | | |- ! National reptile | | |- ! National heritage mammal | | |- ! National fruit | | |- ! National temple | | |- ! National river | | |- ! National mountain | | |- |}

Mae India yn wlad anferth sy'n ymestyn o'r Himalaya yn y gogledd i draethau trofannol Cefnfor India yn y de. Yn y gorllewin mae taleithiau Rajasthan a Gujarat yn anial iawn tra bod y taleithiau dwyreiniol a'r de eithaf yn nhiriogaethau is-drofannol. Mae gan y wlad arfordir hir iawn ar Fôr Arabia yn y gorllewin, Cefnfor India yn y de a Bae Bengal yn y dwyrain.

Cyrhaeddodd bodau dynol modern (Homo sapiens) isgyfandir India o Affrica ddim hwyrach na 55,000 o flynyddoedd yn ôl. O ran amrywiaeth o geneteg dynol, gellir rhoi'r rhanbarth yn ail. Daeth bywyd sefydlog i'r amlwg ar yr isgyfandir ar gyrion gorllewinol basn Afon Indus tua 9,000 o flynyddoedd yn ôl, gan esblygu'n raddol i Wareiddiad Dyffryn Indus yn y drydedd mileniwm CC. Erbyn 1200 CC roedd ffurf hynafol o Sansgrit, iaith Indo-Ewropeaidd, wedi tryledu i India o'r gogledd-orllewin, gan ddatblygu fel iaith y ''Rigveda a gyfansoddwyd'' yn ardal y Sapta Sindhu (gwlad "y Saith Afon"), sy'n cyfateb i ardal y Punjab ym Mhacistan a gogledd-orllewin India, rhwng 1500–1000 CC. Dyma gofnodi gwawr Hindŵaeth yn India. Mewnosodwyd ieithoedd Dravidian India yn y rhanbarthau gogleddol a gorllewinol.

Erbyn 400 CC roedd haenu cymdeithasol a gwahardd cymdeithasol (neu y drefn gastiau) wedi dod i'r amlwg o fewn Hindŵaeth, ac roedd Bwdhaeth a Jainiaeth wedi codi, gan gyhoeddi gorchmynion cymdeithasol nad oeddent yn gysylltiedig ag etifeddiaeth. Arweiniodd cydgrynhoadau gwleidyddol cynnar at Ymerodraethau rhydd Maurya a Gupta ym Masn y Ganga. Nodweddir y cyfnod hwn o gydweithio â chreadigrwydd eang a hefyd gydag ymgorffori anghyffyrddadwyedd (''untouchability'') i fewn i'w system gredo. Yn Ne India, a'r teyrnasoedd Canol, allforiwyd ieithoewdd a sgriptiau Dravidian a'r diwylliannau crefyddol i deyrnasoedd De-ddwyrain Asia.

Yn y cyfnod canoloesol cynnar, gwreiddiodd Cristnogaeth, Islam, Iddewiaeth a Zoroastriaeth ar arfordiroedd de a gorllewinol India. Cyrhaeddodd byddinoedd Mwslimaidd o Ganol Asia gan ysbeilio a rheoli gwastadeddau gogleddol India, gan sefydlu Sultanate Delhi yn y diwedd, a throi gogledd India'n Islam ganoloesol. Yn y 15g, creodd Ymerodraeth Vijayanagara ddiwylliant cyfansawdd Hindŵaidd hirhoedlog yn ne India. Yn y Punjab, daeth Siciaeth i'r amlwg. Arweiniodd Ymerodraeth y Mughal, ym 1526, at ddwy ganrif o heddwch cymharol, gan adael gwaddol o bensaernïaeth oleuol iawn.

Ehangodd Cwmni Prydeinig India'r Dwyrain drwy'r wlad gan droi India yn economi drefedigaethol, ond hefyd ei moldio'n un wlad sofran. Dechreuodd rheolaeth Coron Lloegr (y Raj Prydeinig) ym 1858. Ond wedi peth amser rhoddwyd yr hawliau i Indiaid brodorol, ond cyflwynwyd newidiadau technolegol, a gwreiddiodd syniadau addysg, moderniaeth a bywyd cyhoeddus. Daeth mudiad cenedlaetholgar arloesol a dylanwadol i'r amlwg, a nodwyd am wrthwynebiad di-drais a daeth yn brif ffactor wrth ddod â rheolaeth Prydain i ben. 'Tad y Wlad' ac un o brif arweinwyr dros India annibynnol oedd Mahatma Gandhi. Ym 1947 rhannwyd Ymerodraeth Indiaidd Prydain yn ddau ddominiwn annibynnol, Dominiwn mwyafrif Hindŵaidd India ac Arglwyddiaeth fwyafrif Mwslimaidd Pacistan. Collwyd miliynau o fywydau a gwelwyd mudo nas gwelwyd ei fath cyn hynny.

Mae India wedi bod yn weriniaeth ffederal ers 1950, wedi'i llywodraethu drwy system seneddol ddemocrataidd. Yn wleidyddol, mae'n gymdeithas luosog, amlieithog ac aml-ethnig. Tyfodd poblogaeth India o 361 miliwn ym 1951 i 1.211 biliwn yn 2011. Yn ystod yr un amser, cynyddodd ei hincwm enwol y pen o US $64 yn flynyddol i UD$ 1,498, a chynyddodd ei chyfradd llythrennedd o 16.6% i 74%. O fod yn wlad gymharol amddifad ym 1951, mae India wedi tyfu'n economi fawr sy'n tyfu'n gyflym ac yn ganolbwynt ar wasanaethau technoleg gwybodaeth, gyda dosbarth canol sy'n ehangu'n sydyn. Mae ganddi raglen ofod (ISRO) sydd wedi cwblhau sawl taith lwyddiannus i'r gofod.

Mae ffilmiau, cerddoriaeth a dysgeidiaeth ysbrydol Indiaidd (gw. ioga) yn chwarae rhan gynyddol mewn diwylliant byd-eang. Lleihaodd ei chyfradd tlodi yn sylweddol yn 21g, ond ar gost o gynyddu anghydraddoldeb economaidd. Mae gan India arfau niwclear, ac mae'n uchel mewn gwariant milwrol. Ceir anghydfod ynghylch Kashmir gyda'i chymdogion, Pacistan a Tsieina, anghydfod sydd heb ei ddatrys ers canol yr 20g. Ymhlith yr heriau economaidd-gymdeithasol y mae India yn eu hwynebu mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, diffyg maeth plant, a lefelau cynyddol o lygredd aer. Mae tir India yn fioamrywiol, gyda phedwar ardal o fioamrywiaeth. Gorchuddir 21.7% o'r wlad gan goed. Mae bywyd gwyllt India, yn draddodiadol yn cael ei pharchu, a'i gweld yn rhan o ddiwylliant India, a cheir llawer o gynefinoedd gwarchodedig. Darparwyd gan Wikipedia
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Constitution of India gan Government Of India

    Anhysbys
  2. 2

    Constitution of India gan National Legislator's Conference Bharat (India)

    Cyhoeddwyd 2023
    Llyfr
  3. 3
  4. 4

    BASICS OF DERIVATIVES gan India Infoline

    Cyhoeddwyd 2000
    Llyfr
  5. 5

    IC-23 Applications of Life Insurance gan Insurance Institute of India

    Cyhoeddwyd 2011
    Llyfr
  6. 6

    IC-11 Practice of General Insurance gan Insurance Institute of India

    Cyhoeddwyd 2011
    Llyfr
  7. 7
  8. 8
  9. 9

    The Official Guide for GMAT gan Wiley India

    Cyhoeddwyd 2016
    Llyfr
  10. 10

    The New Manager gan All India Management Association

    Cyhoeddwyd 2008
    Llyfr
  11. 11

    70 Million Employable Indians gan All India Management Association

    Cyhoeddwyd 2007
    Llyfr
  12. 12

    Economic Survey 2014-15 gan Governament of India Ministry of Finance Dept of Economic Af

    Cyhoeddwyd 2015
    Llyfr
  13. 13

    Management Information and Control Systems gan Institute of Charted Accountants of India

    Cyhoeddwyd 2006
    Llyfr
  14. 14

    Data Analytics and continuous Controls Monitoring gan Institute of Chartered Accountants of India

    Cyhoeddwyd 2016
    Llyfr
  15. 15

    Study on Forensic Accounting and Fraud Prevention gan Institute of Chartered Accountants of India

    Cyhoeddwyd 2016
    Llyfr
  16. 16

    Strategic Cost and Performance Management Module 2 gan Institute of Chartered Accountants of India

    Cyhoeddwyd 2024
    Llyfr
  17. 17

    Strategic Cost and Performance Management Module 1 gan Institute of Chartered Accountants of India

    Cyhoeddwyd 2024
    Llyfr
  18. 18

    Direct tax Laws and International Taxation Module 1 gan Institute of Chartered Accountants of India

    Cyhoeddwyd 2022
    Llyfr
  19. 19

    Direct tax Laws and International Taxation Module 2 gan Institute of Chartered Accountants of India

    Cyhoeddwyd 2022
    Llyfr
  20. 20

    Direct tax Laws and International Taxation Module 3 gan Institute of Chartered Accountants of India

    Cyhoeddwyd 2022
    Llyfr