Canlyniadau Chwilio - Lama, Dalai

Dalai Lama

250px|bawd|Gendun Drup, y Dalai Lama 1af :''Erthygl am linach y Dalai Lama yw hon. Am y Dalai Lama presennol, gweler Tenzin Gyatso, 14eg Dalai Lama.'' Arweinydd ysbrydol a gwleidyddol pobl Tibet yw'r Dalai Lama (Tibeteg ཏཱ་ལའི་བླ་མ་, ynganer ''taa la'i bla ma''). Cyfeirir ato gan y Tibetiaid gan amlaf fel "Ei Sancteiddrwydd", neu "Ei Sancteiddrwydd y Dalai Lama", neu ''Gyalwa Rinpoche'', sy'n golygu "Buddugwr Gwethfawr", neu ''Yeshe Norbu'', sy'n golygu "Yr Em sy'n Gwireddu Dymuniadau." Mae "Lama" ("yr un uwchradd", neu "athro") yn deitl a roddir i sawl gradd o gwlerigwr ym Mwdhaeth Tibet. bawd|chwith|Tenzin Gyatso, y 14ydd Dalai Lama.

Mae'r Tibetiaid yn credu mai'r Dalai Lama yw'r ymrithiad presennol mewn cyfres hir o Tulkus, neu Feistri Bwdhaidd sydd wedi llwyddo i ymryddhau o afael olwyn marwolaeth a genegigaeth. Fel y Bodhisattvas, mae'r meistri hyn wedi dewis o wirfodd i gael eu aileni yn y byd er mwyn dysgu'r ddynolryw.

O'r 17g hyd 1959 a goresgyniad Tibet gan Gweriniaeth Pobl Tsieina, y Dalai Lama oedd pennaeth llywodraeth Tibet, gan reoli o'r brifddinas Lhasa. Er 1959, mae'r Dalai Lama yn arwain Gweinyddiaeth Ganolog Tibet, mewn alltudiaeth yn nhref Dharamsala yn Himachal Pradesh, India. Meddylir weithiau mai'r Dalai Lama yw pennaeth yr Ysgol Gelug ym Mwdhaeth Tibet, ond yn swyddogol mae'r swydd yn perthyn i'r Ganden Tripa, swydd dros dro a apwyntir gan y Dalai Lama ei hun. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 3 canlyniadau o 3
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    The Universe in a Single Atom gan Lama, Dalai

    Cyhoeddwyd 2005
    Llyfr
  2. 2

    THE ART OF HAPPINESS - A HANDBOOK FOR LIVING gan HIS HOLINESS LAMA DALAI

    Cyhoeddwyd 2017
    Llyfr
  3. 3

    The Book of Joy gan Lama, Dalai

    Cyhoeddwyd 2016
    Anhysbys