Canlyniadau Chwilio - Moritz, Michael
Michael Moritz
| dateformat = dmy}}Dyn busnes o Gymru yw Syr Michael Moritz (ganwyd 12 Medi 1954)), mae'n gyfalafwr menter ''(venture capitalist)'' gyda chwmni Sequoia Capital, Menlo Park, Califfornia, yn Nyffryn Silicon.
Mae ganddo arbenigedd yn y sector dechnoleg gwybodaeth, ac mae'n adnabyddus am ei fuddsoddiadau mewn cwmnïau rhyngrwyd yn UDA, gan gynnwys Google, Yahoo!, PayPal, Webvan, PlanetRx, ac eToys.
Cyn ymuno â Sequoia ym 1986, treuliodd gyfnod fel newyddiadurwr i gylchgrawn ''Time'' ac ysgriefnnodd lyfr ym 1984 o'r enw ''The Little Kingdom: the Private Story of Apple Computer''. Roedd hefyd yn gyd-sylfaenydd Technologic Partners, cwmni cyhoeddi cylchlythyrau a threfnu cynadleddau technoleg.
Ganwyd Moritz yng Nghaerdydd lle mynychodd Ysgol Uwchradd Howardian. Enillodd radd MA mewn hanes o goleg Eglwys Crist, Rhydychen, ac ym 1978 derbyniodd radd Athro mewn Gweinyddu Busnes ''(MBA)'' gan Ysgol Fusnes Wharton, Prifysgol Pennsylvania.
Mae'n briod â'r nofelydd Americanaidd Harriet Heyman ac mae ganddynt ddau fab.
Cafodd ei urddo'n farchog ar 30 Hydref 2013. Darparwyd gan Wikipedia