Canlyniadau Chwilio - Palin, Sarah
Sarah Palin

Cafodd ei hethol i Gyngor Dinas Wasilla ym 1992, a daeth yn Faer Wasilla ym 1996. Yn 2003, ar ôl ymgais aflwyddiannus i ddod yn Ddirprwy Lywodraethwr, cafodd ei phenodi i'r ''"Alaska Oil and Gas Conservation Commission"'', sy'n gyfrifol am ddiogelwch ac effeithlonrwydd y meysydd olew a nwy yn y dalaith. Hi yw'r person ieuengaf a'r ferch gyntaf i gael ei hethol yn Llywodraethwraig Alaska, cynhaliodd Palin y swydd o fis Rhagfyr 2006 tan ei hymddiswyddiad ym mis Gorffennaf 2009.
Ers gadael ei swydd, mae hi wedi cefnogi ac ymgyrchu ar gyfer y symudiad Tea Party, yn ogystal â nifer o ymgeiswyr eraill mewn nifer o etholiadau. O 2010 i 2015, roedd hi'n darparu sylwebaeth wleidyddol ar gyfer Fox News. Ar 3 Ebrill 2014, dechreuodd Palin ei chyfres teledu newydd , "Amazing America with Sarah Palin" ar Sportsman Channel. Ar 27 Gorffennaf 2014, lansiodd Palin sianel newyddion ar-lein: "Sarah Palin Channel". Darparwyd gan Wikipedia