Canlyniadau Chwilio - Puzo, Mario

Mario Puzo

Nofelydd a sgriptiwr o'r Unol Daleithiau oedd Mario Puzo (15 Hydref 19202 Gorffennaf 1999) sydd yn nodedig am ei nofel ''The Godfather'' (1969), am gyd-ysgrifennu'r sgriptiau i'r addasiadau ffilm ''The Godfather'' (1972) a ''The Godfather Part II'' (1974), ac am sgriptio'r ffilmiau ''Superman'' (1978) a ''Superman II'' (1980).

Ganed yn Efrog Newydd i fewnfudwyr Eidalaidd o Napoli, a roedd ganddo 11 o frodyr a chwiorydd. Gweithiodd ei dad yn gosod cledrau i Reilffordd Ganolog Efrog Newydd. Cafodd Mario ei fagu yn ardal Hell's Kitchen, Manhattan, ac wedi i'w dad adael y teulu pan oedd yn 12 oed bu'n rhaid i'w fam slafio i amddiffyn y plant rhag cyni'r slymiau. Gwasanaethodd Mario ym Myddin yr Unol Daleithiau yn yr Ail Ryfel Byd. Priododd Mario Puzo ag Almaenes o'r enw Erika Broske ym 1946, a chawsant dri mab a dwy ferch.

Gweithiodd Puzo fel clerc mewn swyddfa lywodraethol, ac ysgrifennai erthyglau a straeon byrion ar ei liwt ei hun. Derbyniodd rywfaint o glod am ei ddwy nofel gyntaf, ''The Dark Arena'' (1955) a ''The Fortunate Pilgrim'' (1965), ond nid fawr o lwyddiant. Pan oedd Puzo oddeutu 45 oed, roedd yn benderfynol o ysgrifennu llyfr a digon o fynd arno i ad-dalu ei ddyledion, a oedd wedi cyrraedd $20,000. Gydag ychydig o wybodaeth am dor-cyfraith cyfundrefnol o ganlyniad i'w flynyddoedd yn gamblo, ysgrifennodd nofel am y Maffia, yn canolbwyntio ar y teulu Corleone. Derbyniodd flaenswm o $5000 am ''The Godfather'', a gyhoeddwyd ym 1969. Yn sgil llwyddiant ysgubol y llyfr, enillodd Puzo un miliwn o ddoleri a mwy o werthiannau yn ogystal â gwerthu'r hawliau i gyhoeddi'r llyfr yn rhyngwladol, i argraffu'r clawr papur, ac i addasu'r stori yn ffilm. Cydweithiodd Puzo â Francis Ford Coppola i addasu ei stori ar gyfer y sgrin fawr. Enillodd Puzo a Coppola Wobr yr Academi am y Sgript Addasedig Orau ddwywaith, am ''The Godfather'' a ''The Godfather Part II''.

Cafodd Puzo ei swyno gan gyffro a chyfaredd Hollywood, heb sôn am fyd y gamblo, ac ysgrifennodd ragor o sgriptiau, gan gynnwys y ddwy ffilm gyntaf yng nghyfres Superman, a ''The Cotton Club'' (1984). Bu farw ei wraig Erika ym 1978, a Carol Gino oedd ei gariad am ugain mlynedd olaf ei oes. Ymhelaethodd Puzo ar stori epig y teulu Corleone yn ''The Sicilian'' (1984), dilyniant i ''The Godfather'', sydd yn ymwneud â'r bandit go iawn Salvatore Giuliano. Traethir hanes teulu Maffia arall yn ''The Last Don'' (1996), ei nofel olaf a gyhoeddwyd yn ystod ei oes.

Bu farw Mario Puzo yn ei gartref yn Bay Shore, Long Island, yn nhalaith Efrog Newydd, yn 78 oed, o fethiant y galon. Wedi ei farwolaeth, cyhoeddwyd ''Omertà'' (2000), stori arall am y Maffia, a ''The Family'' (2001), nofel hanesyddol am y Pab Alecsander VI a'r teulu Borgia. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 16 canlyniadau o 16
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    The Godfather gan Puzo, Mario

    Cyhoeddwyd 2009
    Llyfr
  2. 2

    The Godfather: The Last Don gan Puzo, Mario

    Cyhoeddwyd 2005
    Llyfr
  3. 3

    The godfather gan Puzo, mario

    Cyhoeddwyd 1969
    Llyfr
  4. 4

    Godfather- Translated by Ravindra Gujar gan Puzo, Mario

    Cyhoeddwyd 2013
    Llyfr
  5. 5

    The godfather gan Puzo, mario

    Cyhoeddwyd 1969
    Llyfr
  6. 6

    The Godfather gan Puzo, Mario

    Cyhoeddwyd 2009
    Llyfr
  7. 7

    GOD FATHER gan PUZO MARIO

    Cyhoeddwyd 1998
    Llyfr
  8. 8

    GOD FATHER gan PUZO MARIO

    Cyhoeddwyd 1978
    Llyfr
  9. 9

    OMERTA gan PUZO MARIO

    Cyhoeddwyd 2005
    Llyfr
  10. 10

    LAST DON gan PUZO MARIO

    Cyhoeddwyd 1996
    Llyfr
  11. 11

    LAST DON gan PUZO MARIO

    Cyhoeddwyd 2001
    Llyfr
  12. 12

    THE LAST DON gan PUZO, MARIO

    Cyhoeddwyd 1996
    Llyfr
  13. 13

    THE FOURTH K gan PUZO, MARIO

    Llyfr
  14. 14

    Godfather- Translated by Ravindra Gujar gan Puzo, Mario

    Cyhoeddwyd 2013
    Llyfr
  15. 15

    The godfather gan Puzo, Mario

    Cyhoeddwyd 1969
    Llyfr
  16. 16

    The Family gan Puzo, Mario

    Cyhoeddwyd 2001
    Llyfr