Canlyniadau Chwilio - Satyajit Ray
Satyajit Ray
Cyfarwyddwr ffilm o Bengal, India, oedd Satyajit Ray () (2 Mai 1921 – 23 Ebrill 1992). Tybia amryw ei fod yn un o gyfarwyddwyr ffilm pennaf yr 20g. Ganed ef yn ninas Kolkata. Hanai o deulu amlwg ym myd y celfyddydau. Astudiodd Ray yn ''Presidency College'' ac ym Mhrifysgol Visva-Bharati. Dechreuodd ar yrfa artist masnachol. Cyneuwyd ei ddiddordeb mewn gwneud ffilmiau trwy ddau ddigwyddiad: cyfarfu â'r cyfarwyddwr ffilm Jean Renoir o Ffrainc, ac fe welodd y ffilm newydd-realaidd ''Ladri di Biciclette'' o'r Eidal tra ar ymweliad â Llundain.Cyfarwyddodd Ray 37 o ffilmiau, yn brif ffilmiau, ffilmiau dogfen a ffilmiau byrion. Enillodd ffilm gyntaf Ray, ''Pather Panchali'', 11 o wobrau rhyngwladol, gan gynnwys y wobr am y ''Ddogfen Ddynol Orau'' yng Ngŵyl Ffilm Cannes. Hon oedd y cyntaf mewn cyfres o dair ffilm am y cymeriad Apu; ''Aparajito'' a ''Apur Sansar'' yw'r ddwy ffilm arall yn y gyfres. Yn ogystal â chyfarwyddo, roedd Ray yn ysgrifennu sgriptiau, yn dewis actorion, yn cyfansoddi cerddoriaeth, yn ffilmio, yn cyfarwyddo'r adran ddylunio, yn golygu, ac yn dylunio'r teitlau cydnabod a'r hysbysebion. Roedd hefyd yn awdur ffuglen, yn gyhoeddwr, yn ddarlunydd, yn ddylunydd graffig ac yn feirniad ffilm. Enillodd Wobr yr Academi yn 1992. Darparwyd gan Wikipedia