Canlyniadau Chwilio - Trump, Donald

Donald Trump

Gwleidydd a dyn busnes o'r Unol Daleithiau yw Donald Trump (ganwyd 14 Mehefin 1946), sy'n 47fed Arlywydd yr Unol Daleithiau ers 2025. Roedd e'n 45ed Arlywydd Unol Daleithiau America rhwng 2017 a 2021. Methodd gael ei ail-ethol yn 2020 ac roedd Joe Biden yn enillydd clir. Er hynny gwrthododd Trump ganlyniad yr etholiad gan geisio herio y pleidleisiau mewn sawl talaith. Ni ildiodd hyd y diwedd a gadawodd y Tŷ Gwyn heb gyfarfod ei olynydd, gan wrthod mynd i seremoni urddo Biden, er fod Is-Arlywydd Mike Pence yno.

Enillodd yr etholiad ar 8 Tachwedd 2016 gan ddilyn yr arlywydd Obama, gan gynrychioli'r Gweriniaethwyr. Yn wahanol i bob arlywydd o'i flaen roedd yn siarad heb ymgynghori, yn ddi-flewyn ar dafod, yn aml mewn trydar, gan ddefnyddio iaith dyn y stryd e.e. ar 20 Medi 2017 galwodd arweinydd Gogledd Corea yn ''rocket man''. Fe wnaeth Trump nifer fawr o ddatganiadau anghywir, a hynny'n gyhoeddus. Yn ystod chwe mis cyntaf ei arlywyddiaeth, cafwyd llawer o gyhuddiadau ei fod ef a'i deulu'n defnyddio'r swydd i wneud arian, ei fod yn anwadal a'i fod wedi cydweithio gyda Rwsia i ddylanwadu ar yr etholiad ym yr arlywyddiaeth.

Mae Trump hefyd yn ddyn busnes, yn awdur ac yn bersonoliaeth amlwg ar y teledu. Ef yw Cadeirydd a Phrif Weithredwr (CEO) y ''Trump Organization'', sefydliad sy'n datblygu eiddo yn yr Unol Daleithiau. Ef hefyd yw sefydlydd y ''Trump Entertainment Resorts'', sy'n gweithredu nifer o gasinos a gwestai ar draws y byd. Mae bywyd afradlon ac agwedd ddi-flewyn-ar-dafod Trump wedi'i wneud yn enwog yn llygad y cyhoedd am flynyddoedd, ac yn y 2010au bu'n gyflwynydd a chynhyrchydd gweithredol ei sioe realiti ''The Apprentice'' ar NBC. Yn ôl Forbes, roedd ganddo US$3.7 biliwn yn 2016 ac ef oedd 324fed person cyfoethocaf y byd. Cyn gynted ag y dyrchafwyd ef yn arlywydd, dirprwyodd rheolaeth o'i gwmnïau i'w feibion Donald Jr. ac Eric.

Trump oedd dewis y Blaid Weriniaethol ar gyfer arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau yn 2016 gan gyd-redeg gyda llywodraethwr talaith Indiana, Mike Pence a benodwyd, wedi'r etholiad, yn ddirprwy iddo.

Yn dilyn ei ethol yn arlywydd cafwyd protestiadau ledled y byd. Ychydig o bobl ddaeth i'r seremoni urddo ar 20 Ionawr 2017: llawer llai nad yn seremoni Obama. Yn ystod ei wythnos gyntaf yn ei swydd arwyddodd chwe gorchymyn: y cyntaf oedd gorchymyn i ddileu'r gofal am gymuned dlawd UDA o ran iechyd a gofal, a adnabyddid fel 'Obamacare'. Dileodd y Partneriaeth Masnach a Buddsoddiad TrawsIwerydd a lansiodd ei gynllun i godi wal rhwng yr UDA a Mecsico. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 11 canlyniadau o 11
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Crippled America gan Trump, Donald J

    Llyfr
  2. 2

    Midas Touch gan Trump, Donald

    Cyhoeddwyd 2020
    Llyfr
  3. 3

    Why We Want You to Be Rich : Two Men, one message gan Trump Donald J.

    Cyhoeddwyd 2006
    Llyfr
  4. 4

    Think like a champion : an informal education in business and life gan Trump, Donald, 1946

    Cyhoeddwyd 2009
    Llyfr
  5. 5

    Midas Touch gan Trump , Donald & Kiyansaki R

    Cyhoeddwyd 2011
    Llyfr
  6. 6

    Midas Touch gan Trump , Donald & Kiyansaki R

    Cyhoeddwyd 2011
    Llyfr
  7. 7

    Why we want you to be rich Trump, Donald J. gan Trump, Donald J.; Kiyosaki, Robert T.

    Cyhoeddwyd 2006
    Llyfr
  8. 8

    Trump gan Trump, Donald J

    Cyhoeddwyd 2004
    Llyfr
  9. 9

    Think Big And Kick Ass In Business And Life gan Trump, Donald J

    Cyhoeddwyd 2007
    Llyfr
  10. 10

    Midas Touch gan Trump, Donald J.

    Cyhoeddwyd 2011
    Llyfr
  11. 11

    Trump gan Trump, Donald J

    Cyhoeddwyd 2004
    Llyfr